Mae’r meinciau yn ein hatgoffa o’r tryciau llechi a oedd unwaith i’w gweld yn croesi canol y dref, pob un yn cynnwys llechi wedi eu pacio’n dynn ar ddechrau taith allai eu harwain ar draws y byd. Mae pob mainc wedi ei gwneud o ddarnau mawr o dderw, wedi eu hollti’n ddau, yna’n bedwar, ac yn wyth darn i orffen, yn union fel yr oedd bloc o lechi, a elwid yn ‘tew wyth’ yn cael ei hollti’n wyth. Mae’r cledrau a oedd yn llwybr i’r tryciau yn cael eu hadlewyrchu yn y stribynnau o lechi sy’n rhedeg drwy’r palmant o dan y meinciau. Ar hyd y strydoedd, mae stribynnau o lechi ar y palmentydd yn cynnwys testunau sy’n dathlu dywediadau lleol, yn ogystal â dywediadau newydd gafodd eu creu yn arbennig ar gyfer y cynllun gan Dewi Prysor a phlant yr ysgol leol.
Mae’r dyluniad yn y lloches bysiau yn adlewyrchu gwahanol feintiau'r llechi, sydd wedi eu henwi ar ôl aelodau benywaidd uchelwyr, o’r Narrow Ladies i’r Wide Countesses, hyd at y Princesses a’r Queens. Y manylder yma sydd yn ychwanegu cyfoeth i’r cynllun adfywio, gan ddefnyddio gwaith celf i ddathlu’r lle, y bobol, y diwylliant, a’r tirwedd.