Catrin Glyn

Catrin Glyn
Cerdded

Mae gen i go’ plentyn o fynd am dro i Gwmorthin, gan ddysgu gan fy rhieni fod y lle yn ardal o bwys, ond wrth edrych yn ôl, nid oeddwn wedi deall yn iawn beth oedd arwyddocâd hynny. Ro’n i’n deall fod yr ardal yn bwysig, ond ddim wedi deall pam. Dwi’n cofio meddwl hefyd fod yr ardal yn llwydaidd a blêr, a chael ryw deimlad fod pobl wedi gadael heb glirio ar eu holau. Tirlun hollol wahanol i wyrddni meddal Pen Llŷn.

Un o fy niddordebau bellach ydyw cerdded llwybrau a mynyddoedd Eryri ac fe fyddaf yn troedio’r ardaloedd pwysig yma’n rheolaidd. Mae 'na rywbeth unigryw iawn am yr ardaloedd llwydaidd a blêr yma. Fel mae rhywun yn dysgu mwy wrth dyfu fyny caiff eu synhwyrau eu hagor i’r rhyfeddodau. Wrth gerdded i fyny o Gwmorthin tuag at Chwarel y Rhosydd mae’r gorffennol yn dod yn fyw i mi. Dwi’n clywed gwaedd y peiriannau, clywed sŵn yr olwyn yn ceryddu’r dŵr, clywed sŵn clecian, a chlywed sŵn chwysu. Mae 'na rywbeth diymhongar iawn am droedio’r un llwybrau a’r bobl yma oedd yn byw mewn oes mor galed a brwnt.

Mae dysgu am yr ardaloedd yma a sut mae’r tirlun wedi ffurfio nid yn unig yn anrhydeddu’r bobl yma, ond yn creu ymdeimlad o berthyn. Wrth gerdded llwybr y llechi, dysgais fod y llwydni a'r blerwch yn rhan annatod o’n hanes, ac o'r herwydd, yn cyfrannu tuag at harddwch ddiguro Eryri.