Trefniadau Rheoli

Mae Safleoedd Treftadaeth y Byd yn cael eu rheoli gan UNESCO.  Mae gan UNESCO gyfrifoldeb i sicrhau fod Gwerth Rhyngwladol Eithriadol y safleoedd hynod yma yn cael ei warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  Mae gofyn i safleoedd gael eu rheoli yn unol a gofynion ‘Confensiwn Ynghylch Gwarchodaeth Treftadaeth Naturiol a Diwylliannol y Byd (1972)’.

Ym Mhrydain, Llywodraeth y DU yw’r Aelod Wladwriaeth i UNESCO, mae’n gyfrifoldeb arnynt fel llofnodwr y Confensiwn uchod i gefnogi’r amcan yma.  Yr Aelod Wladwriaeth sydd yn cyflwyno ceisiadau Safle Treftadaeth y Byd i UNESCO, a sydd a chyfrifoldeb yn y pen draw am eu rheolaeth.

Mae gan bob Safle Treftadaeth y Byd gorff atebol, sef Cyngor Gwynedd yn ein achos ni.  Y corff atebol sydd yn ymateb i geisiadau am wybodaeth gan UNESCO trwy’r Aelod Wladwriaeth.

Mae’r Safle Treftadaeth y Byd yn cael ei rhedeg fel partneriaeth, mae saith partner strategol wedi arwyddo Memorandwm o Ddealltwriaeth ac yn eistedd ar y Bwrdd Partneriaeth.  Y Bwrdd Partneriaeth sydd yn gyfrifol am rhedeg y Safle Treftadaeth y Byd o ddydd i ddydd.

Mae cynrychiolwyr cymunedol, busnes, trydydd sector ac sefydliadau yn eistedd ar yr is-grwpiau sydd o fewn y strwythur rheoli, ac yn bwydo gweithgareddau, pryderon neu syniadau i fyny i’r Bwrdd Partneriaeth trwy’r strwythur.

Gan ein bod yn Safle Treftadaeth y Byd sydd yn cwmpasu ardal ddaearyddol eang, mae rhan helaeth o’r safle mewn eiddo preifat.

STRWYTHUR RHEOLI

diagram strwythur rheoli

CYSYLLTWCH Â NI

E-bost: llechi@gwynedd.llyw.cymru

Facebookhttps://www.facebook.com/LlechiCymruWalesSlate/

Instagramhttps://www.instagram.com/llechicymru/

Twitterhttps://twitter.com/LlechiCymru

BWRDD PARTNERIAETH SAFLE TREFTADAETH Y BYD TIRWEDD LLECHI GOGLEDD ORLLEWIN CYMRU

Bwrdd Partneriaeth Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yw’r arweinydd strategol ar gyfer cyfres o weithgorau a’r Bartneriaeth yn ei chyfanrwydd; trwy’r rhain mae’n derbyn cyngor arbenigol gan arbenigwyr ymroddedig ym meysydd cadwraeth treftadaeth, treftadaeth y byd, adfywio economaidd a thwristiaeth ddiwylliannol.

Mae Bwrdd Partneriaeth yn cynnwys cynrychiolaeth o bob un o’r Partneriaid Strategol ac yn cael ei gadeirio gan Yr Arglwydd Dafydd Wigley, mae dau is-grŵp sydd a’r pwrpas i gynghori y Bwrdd Partneriaeth ar wahanol feysydd, Is Grŵp Cadwraeth a’r Is Grŵp Buddion. Mae dwy fforwm hefyd yn rhan o’r strwythur, sef y Fforwm Tirfeddianwyr a’r Fforwm Cymunedau. Bwriad y strwythur yw sicrhau llais cymunedau a thirfeddianwyr yn rheolaeth y Safle.

Aelodau’r Bwrdd Partneriaeth

  • Yr Arglwydd Dafydd Wigley (Cadeirydd)
  • Cynghorydd Nia Jeffreys (Is-Gadeirydd ac Is Arweinydd ac Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd)
  • Sioned Williams (Cyngor Gwynedd)
  • Roland Evans (Cyngor Gwynedd)
  • Hannah Joyce (Cyngor Gwynedd)
  • Gareth Jones (Cyngor Gwynedd)
  • Gwenllian Williams (Cyngor Gwynedd)
  • Gwyneth Hughes (Cyngor Gwynedd – Ysgrifenyddes)
  • Jonathan Cawley (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri)
  • Dr Sian Rees (ICOMOS-UK)
  • Dr Andrew Edwards (Prifysgol Bangor)
  • Dr Kathryn Roberts (Cadeirydd Is Grwp Cadwraeth a Cadw)
  • Ashley Batten (Cadw)
  • Dr Christopher Catling (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru)
  • Dr Dafydd Gwyn (Aerbenigwr)
  • Michael Bewick (Cadeirydd Is Grwp Buddion a J. W. Greaves)
  • Ceri Williams (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
  • Kath Davies (Amgueddfa Cymru)
  • Elen Roberts (Amgueddfa Cymru)
  • Andrew Davidson (Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd)

Gweler cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd Partneriaeth yma.