Chwarel Bryneglwys, Pentref Abergynolwyn a Rheilffordd Talyllyn

“Lle penboeth o boliticaidd ydyw”

Y Llan, 7 Awst 1891, t. 2, disgrifiad o bentref Abergynolwyn

Elfennau nodweddiadol a mynediad cyhoeddus

Rhestrir isod elfennau nodweddiadol sy’n rhan o’r ardal Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, a cysylltau i wybodaeth am fynediad cyhoeddus:

Datganiad ar ddiogelwch ymwelwyr

Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru heb os yn hynod ddiddorol, ond yn ôl ei natur yn medru bod yn anghysbell, peryglus a heriol. Mae cyfran sylweddol o’r tirwedd o fewn perchnogaeth preifat ac mae rhywfaint o hyn ar dir ble nad oes caniatâd i fynediad cyhoeddus.

Cyn i chi gychwyn allan i archwilio’r tirwedd llechi, gofynnwch i chi eich hunain, oes gen i’r hawl i ymweld a’r safle? Oes gen i’r offer cywir?  Ydw i’n gwybod sut fydd y tywydd? Ydw i’n hyderus fod gen i’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod? Ewch i Mentro'n Ddiogel er mwyn darganfod sut i fwynhau eich ymweliad yn ddiogel.

 
Bryn eglwys Landscape
© Hawlfraint y Goron: CBHC

Mae’r ardal yma yn ne Gwynedd yn bell o Fethesda, Llanberis, Nantlle a Blaenau Ffestiniog. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd y diwydiant llechi drwy’r sir. Ffermio, coedwigaeth, a chyfres o bentrefi a threfi glan môr braf, sy’n nodwedd o’r ardal erbyn heddiw. Ond fe fu llechi’n bwysig iawn  yma, ac mae’r diwydiant wedi gadael ei olion. Yma gallwn weld sut y dysgodd teulu diwydiannol, cyfoethog, o’r profiad oedd eisoes wedi ei ennill yn ardaloedd eraill y chwareli.

Bryn eglwys Landscape
© Hawlfraint y Goron: CBHC

Chwarel Bryneglwys 

Agorwyd Chwarel Bryneglwys yn y 1840’au, ar raddfa reit fychan. Erbyn y 1860’au cynnar defnyddiwyd incleniau rhaff a chadwyn i godi popeth o’r twll awyr agored. Dyma dechnoleg  anghyffredin, a gyflwynwyd o Chwarel Penyrorsedd yn Nyffryn Nantlle.  Olwynion dŵr oedd yn gyrru’r peirianwaith yma hefyd. Ond, yn wahanol i Penyrorsedd, mae’r waliau cynnal, a hafnau'r olwynion dŵr, i’w gweld o hyd ym Mryneglwys. 

Bryn eglwys Wagon
© Hawlfraint y Goron: CBHC 

Datblygodd y chwarel yn gyflym o 1864 ymlaen, wedi i’r les gael ei brynu gan y brodyr McConnell. Busnes gwreiddiol y brodyr oedd cynhyrchu cotwm yn Sir Gaerhirfryn. Y cyfoeth a’r profiad hwnnw fuddsoddwyd yn y chwarel, y rheilffordd, a’r ardal. O dan y ddaear oedd y cloddio erbyn hyn, efo’r cynnyrch yn cael ei godi drwy’r twll agored. Cloddiwyd saith llawr tan ddaear, ac mae archeolegwyr yn tystio bod llawer o’r offer gwreiddiol yn dal yma. 

Bryn eglwys chain incline
© Hawlfraint John Knowles Copyright

Byw a Bod 

Roedd y dynion a’u teuluoedd yn byw yn Abergynolwyn. Mae’r pentref yn brawf o wybodaeth y 1860’au am ddyletswydd meistr, a gweithiwr. Cynlluniwyd y strydoedd o dai diwydiannol, pwrpasol gan bensaer o Fanceinion, sef James Stevens. Dyma pam mae’r pentref yn edrych yn debyg i bentrefi un o ardaloedd diwydiannol gogledd-orllewin Lloegr. Datblygwyd capeli, eglwys, ysgol a siopau yma, hefyd. Byddai’r nwyddau ar gyfer y pentrefwyr yn cyrraedd drwy’r inclen lawr o’r rheilffordd. Mae’n siŵr hefyd mai fel hyn y cyrhaeddodd popeth ar gyfer adeiladu'r pentref. 

Tal y llyn
© Hawlfraint Rheilffordd Talyllyn Railway Copyright

Symud Llechi 

Y rhan olaf o’r datblygiad oedd adeiladu rheilffordd fyddai’n cludo’r llechi o’r chwarel. Ar y cychwyn, byddai’r cynnyrch yn mynd oddi yma ar gefn ceffylau. Yn 1866, agorwyd rheilffordd gul Talyllyn o Fryneglwys ac Abergynolwyn, i Dywyn. Dyma’r rheilffordd gyntaf i’w chynllunio o’r cychwyn ar gyfer defnyddio injans stêm. Roedd y cynllun wedi elwa o’r gwaith moderneiddio oedd wedi ei wneud gan James Spooner ar Reilffordd Ffestiniog. Roedd teithwyr hefyd yn cael eu cludo ar y rheilffordd yma o’r cychwyn, yn 1866. Roedd rheilffordd lein fawr yn Nhywyn, ac yno cai’r llechi eu rhoi mewn wagenni lein fawr i’w cario i ffwrdd. Dyna’r amcan o’r cychwyn, oherwydd doedd dim porthladd yma. 

Rheilffordd Talyllyn oedd y rheilffordd gyntaf yn y byd i’w hachub a’i gweithredu’n llwyddiannus gan wirfoddolwyr fel atyniad ymwelwyr yn 1951. Mae’r ddwy injan wreiddiol, “Talyllyn” a “Dolgoch”, yn parhau mewn defnydd gan deithio’n gyson trwy ddyffryn y Dysynni.  Mae’r amgueddfa rheilffordd yn Nhywyn yn egluro’r cyfan. 

Abergynolwyn Heol Tan y Bryn
© Hawlfraint Richard Hayman Copyright