Chwarel y Penrhyn a Bethesda, a Dyffryn Ogwen at Aber Cegin (Porth Penrhyn)

"Mae hen gof yma’n gafael,

A hen ffydd ar graig ddi-ffael."

Ieuan Wyn, 'Llanw a Thrai'

Elfennau nodweddiadol a mynediad cyhoeddus

Rhestrir isod elfennau nodweddiadol sy’n rhan o’r ardal Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, a cysylltau i wybodaeth am fynediad cyhoeddus:

Datganiad ar ddiogelwch ymwelwyr

Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru heb os yn hynod ddiddorol, ond yn ôl ei natur yn medru bod yn anghysbell, peryglus a heriol. Mae cyfran sylweddol o’r tirwedd o fewn perchnogaeth preifat ac mae rhywfaint o hyn ar dir ble nad oes caniatâd i fynediad cyhoeddus.

Cyn i chi gychwyn allan i archwilio’r tirwedd llechi, gofynnwch i chi eich hunain, oes gen i’r hawl i ymweld a’r safle? Oes gen i’r offer cywir?  Ydw i’n gwybod sut fydd y tywydd? Ydw i’n hyderus fod gen i’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod? Ewch i Mentro'n Ddiogel er mwyn darganfod sut i fwynhau eich ymweliad yn ddiogel.

 
Penrhyn Landscape
© Hawlfraint y Goron: CBHC

Gallwn weld pob cam yn y broses o greu a gwerthu llechi yn yr ardal rhwng Chwarel y Penrhyn a Phorth Penrhyn. Roedd yr ardal bron iawn i gyd o dan reolaeth teulu’r Pennant, a ddaeth yn ddiweddarach yn Dawkins-Pennant ac yna yn Douglas-Pennant. Teulu a ddefnyddiodd llafur caethweision i wneud eu ffortiwn o’u planhigfeydd siwgr yn Jamaica ar ddiwedd yr 18fed ganrif. Ffortiwn a fuddsoddwyd i wneud Chwarel y Penrhyn y fwyaf yn y byd ar un adeg.

Penrhyn Landscape
© Hawlfraint y Goron: CBHC

Chwarel y Penrhyn

Mae safle’r Chwarel wreiddiol yn anferthol. Efallai eich bod wedi hedfan drosti ar y “Wifren Wib”! Roedd tua 3000 o ddynion yn gweithio yma erbyn canol y 19eg ganrif. I gael at y llechfaen, defnyddiwyd system o dros 20 o bonciau i gamu i fyny llethrau Mynydd y Fronllwyd. Gadawyd y llechfaen nad oedd digon da i’w hollti a’i droi yn llechi to, mewn tomennydd enfawr o wastraff. Wrth i’r chwarel ddatblygu, defnyddiwyd pŵer dwr i godi wagenni mewn lifftiau (“tanciau”) arloesol. Ac wrth i’r Chwarel fynd yn ddyfnach, defnyddiwyd pympiau i godi dŵr o’r gwaelodion, a’i wagio trwy dwnnel i Afon Ogwen.

Penrhyn Quarry
© Hawlfraint y Goron: CBHC
Water Balance
© Hawlfraint Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd Archaeological Trust Copyright
Hydraulic Engine
© Hawlfraint Cyngor Gwynedd Council Copyright

Gweithdai’r Chwarel

Gweithdai’r Chwarel wreiddiol sydd yn Felin Fawr. Llifio meini oedd gwaith y llifiau crwn cyntaf yn y byd a osodwyd yma yn 1802. Pŵer dwr yr afon oedd yn troi’r peirianwaith llifio. Roedd y dramffordd adeiladwyd yn 1801 i gysylltu’r Chwarel efo Porth Penrhyn yn croesi’r afon yma. Felly, pan ail-adeiladwyd y rheilffordd ar gyfer injans stêm yn y 1870’au, dyma’r lleoliad amlwg ar gyfer gweithdai peirianyddol y Chwarel.

Felin Fawr
© Hawlfraint y Goron: CBHC

Symud Llechi

Mae llechi’n drwm ac yn fregus. Rhaid eu cludo’n ofalus, rhag ofn iddynt dorri. Ar y cychwyn, trol a cheffyl, neu fasgedi ar gefn ceffyl, oedd y dull cario ymhob man. Yn 1801 adeiladwyd tramffordd gul, efo ceffylau’n llusgo wagenni ar hyd rheiliau haearn. Roedd hon yn ysbrydoliaeth ar gyfer nifer o dramffyrdd yn ardaloedd y llechi, ac yna ar draws y byd.

Cegin Bridge
© Hawlfraint y Goron: CBHC

Porth Penrhyn oedd terfyn y daith reilffordd. Porthladd ar gyfer llongau oedd yn cario’r llechi ar draws y byd. Codwyd y cei cyntaf yma yn 1790, ac roedd yn cael ei ddatblygu hyd at 1855. Erbyn hynny, roedd cysylltiad rheilffordd lein fawr wedi cyrraedd y porthladd. Mae llawer o’r adeiladau gwreiddiol yn parhau mewn defnydd, ac - yn rhyfeddol - mae llongau masnachol yn cario ambell lwyth o aggregad llechi Chwarel y Penrhyn oddi yma o hyd.

Port Penrhyn
© Hawlfraint y Goron: CBHC

Byw a Bod

Mae ardaloedd Bethesda, Mynydd Llandygai, a Chastell Penrhyn yn wahanol iawn i’w gilydd. Tyfodd pentref poblog Bethesda o amgylch y capel o’r un enw. Agorwyd ef yn 1820, ar ochr Lon Bost Thomas Telford o Lundain i Gaergybi. Calon y pentref ydi’r tai sydd wedi eu gwasgu’n blith draphlith ar dir nad oedd yn perthyn i Stad y Penrhyn. Yn ddiweddarach, o dan ddylanwad y Stad, rhoddwyd mwy o drefn ar ddatblygiad pellach tai a strydoedd.

Bethesda
© Hawlfraint y Goron: CBHC

Mae Mynydd Llandygai yn bentref wedi ei gynllunio yn ofalus gan y Stad o 1843 ymlaen. Mae pob bwthyn efo darn hir o dir ar gyfer gardd a chadw mochyn. Caniatawyd capeli yma, ond gellid gweld pig eglwys Anglicanaidd St Anne’s gerllaw o bobman.

Llandegai
© Hawlfraint y Goron: CBHC

Codwyd Castell Penrhyn yn ddatganiad o hyder a statws cymdeithasol y teulu o ddiwydianwyr oedd yn berchnogion ar y Chwarel. Mae ar safle cyfres o adeiladau fu’n gartrefi i uchelwyr Cymreig. Mae’n adeilad ffug Normanaidd a orffennwyd yn 1837, sydd bellach yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dyma un o blastai mwyaf moethus Cymru - ac mor wahanol i amgylchiadau byw'r chwarelwyr.

Penrhyn Castle
© Hawlfraint y Goron: CBHC

Y Streic Fawr

Rhwng Tachwedd 1900 a Thachwedd 1903 rhwygodd “Streic Fawr” Chwarel y Penrhyn gymunedau'r ardal. Roedd yn un o’r streiciau hiraf, a mwyaf poenus, yn hanes Undebaeth Llafur. Mae “hen gof” o’r streic dal yn fyw yn yr ardal - ond hefyd, mae’r diwydiant llechi yn parhau’n fyw. Ers y 1970’au, defnyddiwyd peiriannau a thechnegau cyfoes i ehangu’r chwarel gan gynhyrchu’r llechi gorau un. Mae galw am y rhain ar gyfer adeiladau hardd a safonol ar draws y byd, er enghraifft Catharinakerk, eglwys gadeiriol yn Eindhoven, Yr Almaen.

NID OES BRADWR YN Y TY HWN
© Hawlfraint Gwasanaeth Archifau Gwynedd Archive Copyright