Y Cais a'r Cynllun Rheolaeth

Y CAIS

Er mwyn ymgeisio am statws Safle Treftadaeth y Byd, mae’n ofynnol cyflwyno cais, neu ddogfen enwebiad, i UNESCO.  Mae’r cais yn mynd trwy broses asesu trwyadl er mwyn sicrhau fod y safle yn cwrdd a gofynion UNESCO ar gyfer ei ddynodi.

Mae’r cais wedi ei seilio ar ddatganiad o werth rhyngwladol eithriadol; hynny yw, pam fod ein tirwedd llechi yn bwysig i’r Byd!

Mae’n enghraifft eithriadol o dirwedd ddiwylliannol ddiwydiannol, a ffurfiwyd trwy chwarelyddiaeth ar raddfa eang, ar yr wyneb ac yn danddaearol, a hefyd trwy drin llechi a’u cludo ar gyfer marchnadoedd cenedlaethol a rhyngwladol. Roedd y diwydiant hwn, yn arbennig pan oedd yn ei anterth rhwng 1780 a 1940, yn ben ar gynhyrchu llechi to yn fyd eang; fe ddylanwadodd ar agor chwareli a chloddfeydd llechi ledled y byd yn sgil trosglwyddo technoleg a sgiliau; ac fe weddnewidiodd yr amgylchedd a’r ffordd o fyw i’r rhai hynny a oedd yn byw ac yn gweithio ym mynyddoedd Eryri.

Nantlle Valley Quarry Landscape
© Hawlfraint y Goron: CBHC

Mae’r Ddogfen Enwebiad yn cynnwys:

  • Crynodeb gweithredol
  • Adnabod yr Eiddo
  • Disgrifiad
  • Cyfiawnhad dros Arysgrifio (noder nad yw criteria v bellach yn rhan o’r cais)
  • Statws Cadwraeth a Ffactorau yn Effeithio’r Eiddo
  • Gwarchodaeth a Rheolaeth yr Eiddo
  • Monitro
  • Dogfennaeth
  • Manylion Cyswllt a Awdurdodau Cyfrifol
  • Llofnod ar ran Plaid y Wladwriaeth

Fe fydd copi o’r ddogfen enwebiad yn cael ei uwch lwytho yn fuan.

Llun Clawr Dogfen Enwebu

Y CYNLLUN RHEOLI

Ochr yn ochr a’r cais, mae Cynllun Rheoli wedi cael ei ddatblygu ar gyfer Safle Treftadaeth Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru. Mae’r Cynllun Rheoli yn egluro sut fydd y Cyngor a’i bartneriaid yn rheoli, gwarchod a datblygu’r Safle Treftadaeth Byd yn y dyfodol.

Mae’r Cynllun Rheoli yn:

  • Cyflwyno’r Dirwedd Ddiwylliannol a’r elfennau sydd wedi eu dewis ar gyfer y dynodiad.  Mae’n bwysig fod y rhain o “Werth Eithriadol Fyd-eang”. Dyna’r prawf oedd  rhaid bod yn siŵr ohono, bob tro.
  • Egluro ein gweledigaeth sef “Amddiffyn, cadw, gwella a chyfleu Gwerth Rhyngwladol Eithriadol Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru er mwyn atgyfnerthu hynodrwydd diwylliannol a chryfhau’r iaith Gymraeg, a dod yn ysgog pwysig i adfywio economaidd a chynhwysiad cymdeithasol”.
  • Egluro sut y byddwn yn rheoli’r Safle Treftadaeth Byd.
  • Egluro sut rydym yn bwriadu gofalu am y chwe ardal, a’r elfennau unigol. Mae polisïau cenedlaethol CADW yn bwysig, a pholisïau a threfniadau Adrannau Cynllunio Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri.
  • Esbonio fod cynaliadwyedd yn eithriadol bwysig i fywydau pawb ohonom. Nid creu amgueddfa o’r dirwedd ydi pwrpas sefydlu Safle Treftadaeth Byd. Rydym am weld y dirwedd yn parhau’n fyw,  a sicrhau bod cymunedau’n parhau’n fywiog.
  • Egluro sut y byddwn yn helpu’r bobl sy’n byw yma, a’r rhai sy’n ymweld, i fwynhau, profi a deall pwysigrwydd ein Safle.
  • Helpu pawb i ddysgu am y Safle. Mae hynny’n golygu rhannu, ac addysgu – mae cymaint i’w ddeall, ei werthfawrogi, a’i fwynhau gennym.

Pobl yn y Tirwedd Llechi

Mae’r Cynllun Rheoli yn cynnwys:

  • Rhagair
  • Rhagymadrodd
  • Geirfa
  • Cyflwyniad
  • Diben a Statws y Cynllun Rheoli
  • Y Dirwedd Ddiwylliannol – Gwerth Rhyngwladol Eithriadol a Phriodweddau
  • Y weledigaeth ar gyfer Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru
  • Thema 1: Llywodraethu a Rheoli
  • Thema 2: Gofalu am Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru
  • Thema 3: Datblygiad Cynaliadwy Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru
  • Thema 4: Mwynhau Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru
  • Thema 5: Dysgu am Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru
  • Cyfeiriadau
  • Cynllun Gweithredu 2020–2030

Gweld Y Cynllun Rheoli (pdf)

Clawr Y Cynllun Rheoli