LLeisiau Lleol

Pobl Y Llechi Logo

 

Mae pobl wedi bod yn ganolog i dirwedd llechi Gogledd Cymru ers y cychwyn.  Mae’r sgiliau a thechnegau datblygwyd yr holl flynyddoedd yn ôl yn parhau, ochr yn ochr â defnydd arloesol ac anarferol i’r graig.  Mae dylanwad diwylliannol a chymdeithasol diwydiant y llechi ar yr ardal wedi bod, ac yn parhau yn arwyddocaol hyd heddiw… hanesion am y Caban, Eisteddfodau a gemau Pêl Droed o pan roedd y diwydiant ar ei anterth yn taro cloch gyda’r cymunedau lleol, ac yn wir mae nifer o draddodiadau yn parhau hyd heddiw. 

Wyddoch chi? Y diwydiant llechi oedd y Cymreicaf o ddiwydiannau mawr Cymru a dyma’r ardal sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg heddiw; Mae dros i 70% o boblogaeth dyffrynnoedd llechi Gwynedd yn siarad Cymraeg. 

Pobl y Llechi

Mae ‘na lot mwy i lechi na toeon tai, ac mae ‘Pobl y Llechi’ yn ein cyflwyno i unigolion sy’n gweithio neu wedi eu hysbrydoli gan bob agwedd o’r diwydiant neu’r dirwedd.  

Wyddoch chi? Mae defnydd presennol tirwedd llechi yn cynnwys llwybrau beicio lawr allt, gwifrau gwib hiraf a chyflymaf y byd, cynnyrch bwyd a diod (yn cynnwys caws, gwin, jin a chwrw), glampio, cwrs ralio, trampolins dan ddaear, canolfan ddeifio... ac wrth gwrs cynhyrchu llechi! 

Cliciwch ar y dolenni isod i glywed mwy am eu storïau a’u hanesion a cysylltwch os hoffech chi fod yn un o ‘Bobl y Llechi’.

Pobl y Llechi                

Llysgenhadon Ifanc

Darganfyddwch sut rydym yn gweithio i ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan yn eu treftadaeth trwy weithgareddau ac ymweliadau amrywiol a cydweithio gyda’n hysgolion.  

Llysgenhadon Ifanc