Cadi Iolen

Cadi Iolen
Curadur

Roedd gennyf ddiddordeb mewn hanes ers pan oeddwn i'n blentyn, a gan fy mod wedi fy magu yn ardal Bethesda roedd gennyf ddealltwriaeth dda o hanes y bröydd chwarelyddol – roedd hyn yn gwneud y swydd yma yn berffaith ar fy nghyfer! Cychwynnais weithio yn yr Amgueddfa yn ystod yr haf wrth i mi astudio cwrs gradd Hanes ac Astudiaethau Addysg ym Mhrifysgol Bangor, ac yna cefais swydd fel Curadur y safle.

Yna wnes i gwblhau M.A. mewn Astudiaethau Amgueddfa ym Mhrifysgol Caerlŷr. Nid oes yr un diwrnod yn debyg i’r nesaf, mae pob diwrnod yn hollol wahanol. Y peth gwaethaf ydi dim digon o amser!