Dr Dafydd Roberts

Cyn-geidwad Amgueddfa Lechi

Rwyf wedi gweithio fel Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru ers 1981, ac yn 1982 enillais Ddoethuriaeth ar y pwnc ‘Cymunedau Chwarelyddol Sir Gaernarfon a Sir Feirionydd 1911-1939’ o Brifysgol Aberystwyth. Roedd fy Nhad, fy Nhaid, Hen Daid, a’n Hen Hen Daid yn Chwarelwyr, felly mae yna gyswllt cryf yno, ac rydw i wedi bod â diddordeb cynhenid yn y diwydiant llechi a'i phobl erioed. I mi mae'r cymunedau chwarelyddol wedi cynhyrchu’r bobl orau a’r cynhesaf ac mae'n bleser gweithio ymysg y diwydiant o ddydd i ddydd.