Aled Owen

Aled Owen
Llwybr Llechi Eryri

Cefais fy ngeni yn Gerlan, fy nwyn i fyny yn Nhregarth, treuliais wyliau gyda fy Nain ym Mlaenau Ffestiniog a byw yng Nghwm Penmachno am flynyddoedd lawer. Treuliwyd llawr o fy mhlentyndod yn unai ymweld â Chwmorthin, teithio ar Rheilffordd Ffestiniog neu'n cerdded ar hyd Rheilffordd y Penrhyn, ynghyd â darganfod mwyngloddiau a chwareli Cwm Penmachno; mae’r ardaloedd llechi yn agos iawn at fy nghalon.

Wedi i mi ymddeol mi wnes i gwblhau cwrs Meistr mewn Datblygiad Cymunedol. Roeddwn am gydnabod diboblogaeth y pentrefi llechi, ynghyd â'r diffyg cyfleusterau a chyfleoedd cyflogaeth yno, wnaeth hyn arwain at ddatblygu Llwybr Llechi Eryri. Roedd y prosiect hwn yn cynnwys y cynghorau lleol a sirol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, nifer o asiantaethau, tirfeddianwyr a phobl leol, yn ogystal â llawer o blant ysgol. Mae’r llwybr troed yn 83 milltir o hyd a fwriedir nid yn unig i gyfrannu at yr economi twristiaeth ond hefyd i ddod â'n treftadaeth a'n diwylliant llechi unigryw i sylw lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Edrychaf yn ôl i ddyddiau fy ieuenctid pan oedd y rhan fwyaf o bobl o'm cwmpas yn dibynnu ar lechi ar gyfer bywoliaeth, pan oedd tad fy ffrind yn dal bws chwarel Purple Motors, gan gario ei dun coch Oxo o frechdanau. Edrychaf ymlaen at y diwrnod y bydd cerddwyr ac ymwelwyr eraill yn dod â bywyd a chyfle newydd i'r ardal lechi anhygoel hon, wedi'i denu nid yn unig gan Lwybr Llechi Eryri ond hefyd gan statws Safle Treftadaeth y Byd.

www.snowdoniaslatetrail.org