Digwyddiadau Cymunedol Llechi Cymru

Fel cwmni / unigolyn sy’n cyflawni gwaith trwy nawdd LleCHI yn ein cymunedau – hoffwn dynnu eich sylw at y digwyddiadau isod all fod o ddiddordeb.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Gweler isod wybodaeth am ddigwyddiadau cymunedol a gynhelir sy’n gyfle i drigolion a busnesau’r ardal ddeall mwy am enwebiad Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru. Gan gynnwys:

  • Cefndir y cais a'r cyd-destun
  • Pam ein bod yn cyflwyno'r cais a pham fod ardal tirwedd chwarelyddol Gwynedd yn deilwng am ddynodiad Safle Treftadaeth y Byd
  • Gwaith cymunedol LleCHI
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Sesiwn Holi ac Ateb

Yn bresennol bydd swyddogion o Cyngor Gwynedd sy'n arwain ar y cais a rhai o bartneriaid allweddol y prosiect.

Cynhelir y digwyddiad fel Webinar dros Zoom.

Bydd darpariaeth cyfieithu ar y pryd ar gael o'r Gymraeg i Saesneg. Rhowch wybod o flaen llaw ar llechi@gwynedd.llyw.cymru os ydych angen defnydd o'r gwasanaeth hwn.

Mae digwyddiadau fel a ganlyn, defnyddiwch y linc Eventbrite perthnasol i archebu eich lle:

Niferoedd yn gyfyngedig.