Mae Safleoedd Treftadaeth y Byd yn cael eu rheoli gan UNESCO. Mae gan UNESCO gyfrifoldeb i sicrhau fod Gwerth Rhyngwladol Eithriadol y safleoedd hynod yma yn cael ei warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae gofyn i safleoedd gael eu rheoli yn unol a gofynion ‘Confensiwn Ynghylch Gwarchodaeth Treftadaeth Naturiol a Diwylliannol y Byd (1972)’.
Ym Mhrydain, Llywodraeth y DU yw’r Aelod Wladwriaeth i UNESCO, mae’n gyfrifoldeb arnynt fel llofnodwr y Confensiwn uchod i gefnogi’r amcan yma. Yr Aelod Wladwriaeth sydd yn cyflwyno ceisiadau Safle Treftadaeth y Byd i UNESCO, a sydd a chyfrifoldeb yn y pen draw am eu rheolaeth.
Mae gan bob Safle Treftadaeth y Byd gorff atebol, sef Cyngor Gwynedd yn ein achos ni. Y corff atebol sydd yn ymateb i geisiadau am wybodaeth gan UNESCO trwy’r Aelod Wladwriaeth.
Mae’r Safle Treftadaeth y Byd yn cael ei rhedeg fel partneriaeth, mae saith partner strategol wedi arwyddo Memorandwm o Ddealltwriaeth ac yn eistedd ar y Bwrdd Partneriaeth. Y Bwrdd Partneriaeth sydd yn gyfrifol am rhedeg y Safle Treftadaeth y Byd o ddydd i ddydd.
Mae cynrychiolwyr cymunedol, busnes, trydydd sector ac sefydliadau yn eistedd ar yr is-grwpiau sydd o fewn y strwythur rheoli, ac yn bwydo gweithgareddau, pryderon neu syniadau i fyny i’r Bwrdd Partneriaeth trwy’r strwythur.
Gan ein bod yn Safle Treftadaeth y Byd sydd yn cwmpasu ardal ddaearyddol eang, mae rhan helaeth o’r safle mewn eiddo preifat.
STRWYTHUR RHEOLI
CYSYLLTWCH Â NI
E-bost: llechi@gwynedd.llyw.cymru
Facebook: https://www.facebook.com/LlechiCymruWalesSlate/
Instagram: https://www.instagram.com/llechicymru/
Twitter: https://twitter.com/LlechiCymru
BWRDD PARTNERIAETH SAFLE TREFTADAETH Y BYD TIRWEDD LLECHI GOGLEDD ORLLEWIN CYMRU
Bwrdd Partneriaeth Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yw’r arweinydd strategol ar gyfer cyfres o weithgorau a’r Bartneriaeth yn ei chyfanrwydd; trwy’r rhain mae’n derbyn cyngor arbenigol gan arbenigwyr ymroddedig ym meysydd cadwraeth treftadaeth, treftadaeth y byd, adfywio economaidd a thwristiaeth ddiwylliannol.
Mae Bwrdd Partneriaeth yn cynnwys cynrychiolaeth o bob un o’r Partneriaid Strategol ac yn cael ei gadeirio gan Yr Arglwydd Dafydd Wigley, mae dau is-grŵp sydd a’r pwrpas i gynghori y Bwrdd Partneriaeth ar wahanol feysydd, Is Grŵp Cadwraeth a’r Is Grŵp Buddion. Mae dwy fforwm hefyd yn rhan o’r strwythur, sef y Fforwm Tirfeddianwyr a’r Fforwm Cymunedau. Bwriad y strwythur yw sicrhau llais cymunedau a thirfeddianwyr yn rheolaeth y Safle.
Aelodau’r Bwrdd Partneriaeth
- Yr Arglwydd Dafydd Wigley (Cadeirydd)
- Cynghorydd Nia Jeffreys (Is-Gadeirydd ac Is Arweinydd ac Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd)
- Sioned Williams (Cyngor Gwynedd)
- Roland Evans (Cyngor Gwynedd)
- Hannah Joyce (Cyngor Gwynedd)
- Gareth Jones (Cyngor Gwynedd)
- Gwenllian Williams (Cyngor Gwynedd)
- Gwyneth Hughes (Cyngor Gwynedd – Ysgrifenyddes)
- Jonathan Cawley (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri)
- Dr Sian Rees (ICOMOS-UK)
- Dr Andrew Edwards (Prifysgol Bangor)
- Dr Kathryn Roberts (Cadeirydd Is Grwp Cadwraeth a Cadw)
- Ashley Batten (Cadw)
- Dr Christopher Catling (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru)
- Dr Dafydd Gwyn (Aerbenigwr)
- Michael Bewick (Cadeirydd Is Grwp Buddion a J. W. Greaves)
- Ceri Williams (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
- Kath Davies (Amgueddfa Cymru)
- Elen Roberts (Amgueddfa Cymru)
- Andrew Davidson (Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd)