“Cadernid Gwynedd”
Mae hen, hen hanes tu cefn i’n llechi ni yma yng ngogledd Cymru. Roedd y Rhufeiniaid yn eu caer yn Segontium, Caernarfon yn eu defnyddio, ac mae pobl yn parhau i’w prynu, ac yn gwybod mai’r rhain ydi’r llechi gorau.
Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol , o tua 1790 i 1890, llechi oedd defnydd toeau tai a ffatrïoedd, plastai a phwerdai. Roedd yn ddigon hawdd i’w cario ar longau bychain o borthladdoedd Gwynedd, at gegau’r camlesi fyddai’n cyflenwi defnyddiau i’r ardaloedd diwydiannol.
O 1801 byddai’r llechi to yn cael eu cario o’r chwareli ar hyd rhwydwaith o reilffyrdd cul. Roeddent yn troelli drwy dirwedd anodd, ac yn gwneud defnydd blaengar o injans stem. Roedd y rhain yn ysbrydoliaeth i beirianwyr ar draws y byd. Ac yn 1951, y daeth gwirfoddolwyr i achub a gweithredu rheilffordd Talyllyn - y tro cyntaf erioed i hyn ddigwydd.
Roedd marchnad am lechi Cymru tu allan i Brydain hefyd. Daeth penseiri, diwydianwyr ac adeiladwyr i weld, a gwybod am ein llechi. Fe’u defnyddiwyd ar draws y byd ar gyfer adeiladau o bob math. Er enghraifft, tai teras cyffredin yn y dinasoedd diwydiannol, Ty Cwrdd y Crynwyr yn Adelaide, ac adeiladau urddasol fel Neuadd y Ddinas Copenhagen, ac adeilad y Royal Exhibition yn Melbourne.
Daeth y llechi a’u Chwyldro eu hunain i ardaloedd distaw, mynyddig gogledd Cymru. Roedd cloddfeydd y chwareli, a’r tomennydd rwbel o’u hamgylch, yn ffurfio tirwedd weledol newydd. Doedd dim peiriannau ar y cychwyn. Roedd rhaid i’r crefftwyr symud pob darn eu hunain mewn amgylchiadau anodd. Mae’r ffurfiau sydd wedi goroesi yn dystiolaeth o’r gwaith caled yma.
Nifer fechan o berchnogion wnaeth eu ffortiwn o’r chwareli. Dewisodd y rhain ei wario a’i frolio trwy godi plastai a phrynu tiroedd. Doedda nhw ddim yn bobl boblogaidd.
Creodd gwyr a gwragedd yr ardal ddiwylliant bywiog. Mae’r dirwedd ddiwylliannol yma mor bwysig heddiw ag y bu erioed. Mae’r capeli a’r eglwysi, yr ystafelloedd band, yr ysgolion a’r llyfrgelloedd yn dystiolaeth o’r parch at ffydd, addysg, llenyddiaeth a cherddoriaeth. Yn sylfaenol i’r cyfan mae’r Gymraeg. Hon ydi iaith fywiog ein cymunedau hyd heddiw.
Mae llechi Cymru’n cael eu gwerthu ar draws y byd o hyd. Ac mae’r partneriaethau cymunedol sydd mor bwysig i’r ardaloedd yma yn tyfu, ac yn creu dyfodol yng nghysgod y llechi.
Dewch i ddysgu mwy am y chwe ardal sy’n rhan o’r Dynodiad Treftadaeth Byd Tirwedd Llechi.
Datganiad
Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru heb os yn hynod ddiddorol, ond yn ôl ei natur yn medru bod yn anghysbell, peryglus a heriol. Mae cyfran sylweddol o’r tirwedd o fewn perchnogaeth preifat ac mae rhywfaint o hyn ar dir ble nad oes caniatâd i fynediad cyhoeddus.
Cyn i chi gychwyn allan i archwilio’r tirwedd llechi, gofynnwch i chi eich hunain, oes gen i’r hawl i ymweld a’r safle? Oes gen i’r offer cywir? Ydw i’n gwybod sut fydd y tywydd? Ydw i’n hyderus fod gen i’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod? Ewch i Mentro'n Ddiogel er mwyn darganfod sut i fwynhau eich ymweliad yn ddiogel.