Rwy’n byw yng Nghaerdydd, ond yng Ngwynedd mae ’nghalon i. Mae fy nghysylltiad cryfaf gydag Aberllefenni a Chorris, lle bu llawer cenhedlaeth o’m teulu yn byw. Magwyd dad yn Rock Cottage, Aberllefenni. Gadawodd yr ysgol yn gynnar a dilyn ei dad i weithio yn y chwarel. Blwyddyn yn ddiweddarach, ychydig cyn Nadolig 1957, bu trasiedi i’r teulu pan gollodd fy nhaid ei fywyd tra oedd yn gweithio fel creigiwr yn Chwarel Aberllefenni.
Mae gan fy nheulu gartref o hyd yn yr ardal, felly rydw i wedi bod yn ffodus i ymweld â’r gymdogaeth drwy gydol fy mywyd. Er nad oes teulu ar ôl yn yr ardal bellach, mae’r arferiad o fynd ar wyliau yno a dysgu am fy nhreftadaeth yn parhau. Rwy’n mwynhau cael profiad o’r diwydiant llechi wrth deithio ar Reilffordd Corris a chael fy nhywys dan ddaear gan gwmni’r Corris Mine Explorers. Rydw i hefyd wrth fy modd yn cerdded hen lwybrau’r chwarelwyr gyda fy nheulu, ble y caf weld olion y diwydiant a chlywed straeon am hanes fy nghyndeidiau fu’n gweithio yn y chwarel. Mae’r tirlun trawiadol yn ysbrydoliaeth i mi a byddaf yn siŵr o fynd â chamera gyda fi pan wyf yn crwydro’r ardal.
Rwy’n hoffi gweld y gwahanol ddefnydd a wneir o lechfaen, a chlywais unwaith Ieuan Rees - yr arlunydd, cerfiwr a chrefftwr enwog o Rhydaman - yn dweud mai slabiau llechi Aberllefenni yw’r gorau yn y byd i dorri geiriau ynddynt a’u cerfio. Yn wir, mae fy nheulu yn ymddiddori’n fawr yn nhreftadaeth yr ardal, ac yn 2002, cyhoeddodd dad lyfr dwyieithog o luniau lleol, ‘Corris Trwy Lygad y Camera Through the Eye of the Camera’. * Ychydig iawn o bobl rwy’n nabod sy'n gwybod rhyw lawer am yr ardal. Ond i mi mae’r lonydd cefn, y llwybrau cerdded, golygfeydd y llechi ar y tir, sŵn yr afon a’r awyr iach a geir yno yn emau cudd.