Glyn Price

Glyn Price
Price Arlunydd / Gweithiwr Ymgysylltu Phobl Ifanc

Yn wreiddiol o Cwm-y-Glo, ac yn teimlo’n ffodus iawn fy mod wedi cael fy magu mewn pentref bach yng nghysgod yr Wyddfa a chwarel Dinorwig. Roedd y tirlun o nghwmpas wedi gafel arnai o oedran ifanc iawn.

Mae gennyf ddiddordeb yn lliwiau a siapiau’r tir, yn ogystal a hanes a diwylliant cyfoethog Gogledd Cymru sydd yma o’n cwmpas yn y chwareli a’r mynyddoedd.

Mae cerdded yn rhan fawr o’r broses o creu fy ngwaith celf. Dyma pryd dwi yn cael fy ysbrydoli gan y tir, yn enwedig ardal Llanberis, Vivian a Chwarel Dinorwig, yr holl deimlad a hanes o be sydd wedi bod cynt.

Yn syml rwy’n ymateb i’r tir a’r ardal ble cefais fy ngeni a’m magu, gan geisio dal eiliad mewn amser drwy broses creadigol.

Mae Chwarel Dinorwig, ac yn enwedig Vivian, wedi cael gymaint o ddylanwad arnaf, penderfynom ni alw ein merch yn Gwen Vivian.

Dwi wedi bod yn ffodus iawn o gael gweithio gyda phobl creadigol iawn, oherwydd dylanwad Chwarel Dinorwig, gan gynnwys comisiwn ar gyfer label Jin Llechan Las i gwmni lleol, Distyllfa Dinorwig, ac hefyd wedi cael y cyfle i ddangos y Chwarel i gynulleidfa eang ar raglen S4C ‘Am Dro’.

Rydym yn byw mewn lle hollol ysbrydoledig!