Howard Bowcott

Howard Bowcott
Cerflynydd

Cefais fy nenu at dirwedd Blaenau Ffestiniog pan oeddwn yn y coleg celf. Deugain mlynedd yn ddiweddarach ac mae’r diddordeb yr un mor gryf, ond drwy fyw a gweithio yn Nyffryn Ffestiniog rwyf hefyd wedi dod i werthfawrogi’r diwylliant sydd wedi codi o’r tirwedd yma, a’r gweithio greddfol o ddefnydd. Fel cerflunydd rwy’n ymddiddori mewn ffurfio defnydd, a chyffyrddiad llaw â’r garreg.

Llechi yw'r garreg orau i mi, wrth ddal darn yn eich llaw, rydych yn dal darn o hanes y ddaear; ymgorfforiad ffisegol o afon yn golchi mwd hynafol mewn i foroedd cynoesol, ac wedyn yn cael ei gywasgu dros filiynau o flynyddoedd yng ngwres crwst y ddaear. Wrth hollti’r haenau’r garreg rydych yn agor tudalennau’r ddaear, a bod y cyntaf i ddarllen yr hanes hwnnw. Pentyrrwch yr haenau ac mi rydych yn creu storïau newydd, creu dehongliadau newydd.