Cynllun Rheoli

Mae Cyngor Gwynedd a’i bartneriaid wedi datblygu Cynllun Rheoli ar gyfer Safle Treftadaeth Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru. Mae’r Cynllun Rheoli yn egluro sut fydd y Cyngor a’i bartneriaid yn rheoli, gwarchod a datblygu’r Safle Treftadaeth Byd yn y dyfodol.  

[Mewnosod llun o glawr y ddogfen reoli efo linc i gynwys y Ddogfen Reoli]  

Mae cynlluniau rheoli lleol yn cael eu datblygu hefyd ar gyfer pob elfen o’r dynodiad Treftadaeth Byd. 

Ymgynghori 

Roedd ymgynghoriad efo nifer fawr o fusnesau, mudiadau, cynghorau, cymunedau ac unigolion wrth ddatblygu’r Cynllun Rheoli yn 2019. Mae’r canlyniadau yma: 

[Mewnosod linc canlyniadau llawn - http://www.llechi.cymru/SiteElements/Dogfennau/Adroddiad-Ymgynghoriad-Llechi-Cymru.pdf ] 

Dyma grynodeb: 

Ymatebion Cynllun Rheolaeth

Crynodeb o’r Cynllun Rheoli 

Mae’r Cynllun Rheoli yn: 

  1. Cyflwyno’r Cynllun Rheoli.  

  1. Cyflwyno’r Dirwedd Ddiwylliannol a’r elfennau sydd wedi eu dewis ar gyfer y dynodiad.  Mae’n bwysig fod y rhain o “Werth Eithriadol Fyd-eang”. Dyna’r prawf oedd  rhaid bod yn siŵr ohono, bob tro. 

  1. Egluro ein gweledigaeth sef “Amddiffyn, cadw, gwella a chyfleu Gwerth Rhyngwladol Eithriadol arfaethedig Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru er mwyn atgyfnerthu hynodrwydd diwylliannol a chryfhau’r iaith Gymraeg, a dod yn ysgog pwysig i adfywio economaidd a chynhwysiad cymdeithasol”. 

  1. Egluro sut y byddwn yn trefnu a rheoli’r Safle Treftadaeth Byd.  

  1. Egluro sut rydym yn bwriadu gofalu am y chwe ardal, a’r elfennau unigol. Mae polisïau cenedlaethol CADW yn bwysig, a pholisïau a threfniadau Adrannau Cynllunio Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri. 

  1. Esbonio fod cynaliadwyedd yn eithriadol bwysig i fywydau pawb ohonom. Nid creu amgueddfa o’r dirwedd ydi pwrpas sefydlu Safle Treftadaeth Byd. Rydym am weld y dirwedd yn parhau’n fyw,  a sicrhau bod cymunedau’n parhau’n fywiog. 

  1. Egluro sut y byddwn yn helpu’r bobl sy’n byw yma, a’r rhai sy’n ymweld, i fwynhau, profi a deall pwysigrwydd ein Safle 

  1. Helpu pawb i ddysgu am y Safle. Mae hynny’n golygu rhannu, ac addysgu – mae cymaint i’w ddeall, ei werthfawrogi, a’i fwynhau gennym