Ian Nicholls

Rheolwr Cyffredinol, Zip World Ceudyllau Llechi

Mi ddos i Gymru fel recriwt Llu Awyr Brenhinol yn 1985 wedi cwblhau fy nghwrs Hyfforddwr Hyfforddiant Corfforol yng nghanolfan awyr agored, Llanrwst. Y tro cyntaf i mi fynydda oedd dros Fynyddoedd y Moelwyn, ac yno fe wnes i ddod ar draws bylchau rhyfedd yn llinellau gyfuchlin y map. Yn fuan iawn, canfyddais mai tomenni gwastraff ar gyfer y chwareli llechi niferus yn yr ardal oedd y rhain.

Gan fy mod yn dod o ddinas ddiwydiannol Sheffield, roeddwn wedi gyda diddordeb mewn llafuriau dyn yn echdynnu’r graig o dan ddaear. Dros y 25 mlynedd nesaf, rwyf wedi mentro dros ac o dan ddaear yn archwilio graddfa fawreddog etifeddiaeth Gogledd Cymru ar y byd, fel rhan o fy mywyd milwrol yn hyfforddi milwyr mewn arweinyddiaeth a mynydda.

Yn 2017, cefais fy mhenodi fel Rheolwr Cyffredinol Ceudyllau Llechi Zip World; un o dri chyrchfan antur yng Ngogledd Cymru, mae’r ddau arall yn Chwarel Penrhyn a Fforest wrth ymyl Betws Y Coed. Ymwelais â’r Ceudyllau Llechi yn yr 80’au i ddysgu mwy am hanes a chwedlau'r ardal leol wrth hyfforddi fel hyfforddwr mynydda. Fe drawsffurfiodd Zip World y safle yn 2014 trwy greu cylchfa zip mwyaf y byd gyda Titan, ein gwifren zip pedair llinell sy’n hedfan dros y chwarel ac 11 o wifrennau zip tanddaearol ar y cwrs ‘Caverns’. Mae’r anturiaethau, ynghyd â netiau Bounce Below sydd yn uchel uwchben lloriau'r siambr, wedi dod a bywyd newydd i gadeirlannau dan ddaear.

Gall bobl nawr ryfeddu at waith y chwarelwyr sydd wedi gweithio’r graig o’r ddaear ers dros 175 o flynyddoedd. Mae Zip World yn dod a dros 160,000 o ymwelwyr y flwyddyn i’r ceudyllau llechi. Rwyf dal i gael fy syfrdanu bob diwrnod yn gweld maint a godidowgrwydd y lle. Rwy’n ceisio esbonio i’n cwsmeriaid ifanc sut fuasai bywyd wedi bod iddynt yn ôl yr amseroedd hynny a'r gwaith aeth mewn i doi’r byd. Yn aml, rwy’n meddwl beth fuasai’r hen chwarelwyr yn eu dweud pe gallent weld beth rydym wedi gwneud gyda’u gwaith caled a pe baent yn dod i chwarae.

Ewch i: http://zipworld.co.uk neu01248 601 444 i drefnu eich profiad antur.