Gwyn Hughes

Gwyn Hughes
Inigo Jones

Cyn i mi ddod i weithio i Inigo Jones, fy mhrofiad cyntaf fi o weithio efo llechen oedd yn Chwarel Pen-yr-Orsedd yn Fron ar ôl gadael ysgol.  Oni’n arfer hollti a naddu yno a llifio - dipyn bach o bob dim.  Dwi’n gweithio fwyaf ar y llif, planar ac yn polisho yn fama a dwi yma bellach ers tua 8 mlynedd.  Oedd fy nhaid yn ‘Monumental Maison’ yn gweithio hefo llechen hefyd; cerfio efo llaw oedd o. A nhad hefyd yn dreifio loris yn Chwarel Penrhyn. Mae o’n wbath sy’n neis i feddwl bod fi’n drydedd genhedlaeth yn y teulu yn gweithio efo llechen, cario traddodiad ymlaen. Dwi’n eithaf balch o hynny, er nes i erioed feddwl 'swn i’n gneud yr un fath a nhw chwaith! Dwi’n enjoio’r gwaith ond mae o’n waith caled, gwaith trwm, ag yn gletach yn gaeaf!