Falcon Hildred

Falcon Hildred
Arlunydd

Rwyf wedi bod yn recordio ac yn ymgyrchu i achub treftadaeth bensaernïol a diwydiannol Blaenau Ffestiniog ers 1967. Rwyf wedi achub tri adeilad: rhes o fythynnod chwarelwyr, Pandy Moelwyn gyda’r holl beirianwaith, a Pant-yr-Ynn - melin lechi cynharaf Blaenau sydd yn parhau i sefyll . Fe adferais Pant-yr-Ynn a'i droi yn gartref, a sydd nawr yn leoliad i ‘Worktown’ sef arddangosfa barhaol o fy ngwaith.

Rwy’n aelod anrhydeddus o Gymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru, wedi cyhoeddi tri llyfr a gyda gwaith yng nghasgliadau Amgueddfa Victoria & Albert Amgueddfa Cymru, Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Lloegr, Ironbridge, Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Galeri Celf Casnewydd, Archifdy Caerdydd ac Archifdy Gwynedd.

Fe wnaeth fy nyluniad o 1999 ar gyfer Canol Tref Blaenau Ffestiniog ailsefydlu’r cyswllt hanfodol rhwng y chwareli, a Rheilffordd Ffestiniog a oedd yn mynd a’r llechi i Borthmadog ble cafodd llechi eu llwytho i’w hallforio ar draws y byd. Mae fersiwn o’r dyluniad wedi’i adeiladu ers hynny.

Mae fy arddangosfa ‘Treftadaeth a Cholled’ ar hyn o bryd yn Llyfrgell Blaenau Ffestiniog o 11eg o Fehefin i 28ain o Orffennaf 2018. Cafodd ei gomisiynu fel rhan o Wŷl Lechi Bro Ffestiniog, mewn cefnogaeth i enwebiad Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.

Yn ogystal â’r detholiad o luniau, mae 10 panel newydd gyda thestun sydd yn hawdd ei ddarllen wedi’u cefnogi gan ddarluniadau sydd wedi eu dylunio i wthio’r neges a pham bod treftadaeth mor bwysig I Gymru yn hanesyddol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd - felly nid yw’r arddangosfa hon fel unrhyw arddangosfa celf arall. Mae’n amser i ni ddechrau cymryd gofal ymarferol a brys o weddillion y diwydiant gwych a’r ffordd o fyw.

Mwy o wybodaeth yma: www.falconhildred.co.uk