Howard Bowcott

Howard Bowcott
Yr Afon Llechi

Yng nghanol Blaenau Ffestiniog mae afon o lechi – llwybr o lechi amryliw. Mae enwau dros 350 o chwareli ledled Cymru wedi eu naddu ar lechen pob chwarel benodol. Mae’r môr o enwau yn ein hatgoffa o faint y diwydiant pan roedd yn ei anterth, a’r dynion oedd yn gweithio ym mhob chwarel. Mae’r afon yn ddelwedd addas, gan mai mwd afonydd wedi ei olchi i foroedd hynafol miliynau o flynyddoedd yn ôl yw llechi. Cyn i Reilffordd Ffestiniog gael ei adeiladu yn yr 1830au, roedd llechi yn cael eu cario gan gychod bach i lawr yr afon sy’n llifo o dan Ffestiniog, ac i’r llongau ym Mhorthmadog.

Bob ochr i’r afon lechi fe wnaeth Howard gomisiynu’r diweddar fardd Gwyn Thomas, oedd yn enedigol o’r Blaenau, i greu testun dwyieithog. Roedd yn ymwybodol o amodau didrugaredd y diwydiant llechi, ac ysgrifennodd ‘Llifa amser yn ei flaen a llifa dŵr; ni lifa bywyd creigiwr.’ Yn y Saesneg ysgrifennodd ‘Men die; the rocks in the empty darkness of these mountains endure.’